Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2022
Amser:
09.00 -
09.51
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Ni wnaed unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 21 Medi 2022 –
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24
4.2 Atodiad A: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
4.3 Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth yn ymwneud â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i ymgynghori ynghylch yr amserlen arfaethedig a dychwelyd at y mater yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi.
5 Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
5.1 Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad ar yr adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytuno arno, yn amodol ar welliant mewn perthynas â phresenoldeb mewn cyfarfodydd pwyllgor y cytunir arnynt y tu allan i’r cyfarfod. Byddai’r Pwyllgor yn trafod canllawiau drafft cychwynnol ar gyfranogiad mewn trafodion rhithwir a hybrid yn ei gyfarfod nesaf.
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad a chytunodd arno.
7 Rhaglen waith weithdrefnol
7.1 Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes ar gyfer y Chweched Senedd
7.2 Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd: Trafod argymhellion yr adroddiad
Nododd y Pwyllgor Busnes y rhaglen waith weithdrefnol ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt, gan gynnwys trafod nifer o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ac adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y ffenestr lle gall y Pwyllgor ddylanwadu ar gyfarwyddiadau polisi Bil ar Ddiwygio’r Senedd yn debygol o fod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a chytunodd i drafod papur manwl sy’n nodi materion yn ymwneud ag argymhellion y Pwyllgor mewn cyfarfod dilynol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfarfod yn gyhoeddus wrth ystyried materion gweithdrefnol, gan gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar faterion perthnasol sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd, lle y bo’n briodol.
8 Papur i'w nodi
8.1 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU a’r Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd).